Lleoliad:
Hybrid – Ystafelloedd Pwyllgora 1 a 2 a Chynhadledd Fideo drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 17 Tachwedd 2022
Amser:
11.31 -
14.19
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13125
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jayne Bryant AS (Cadeirydd) James Evans AS Laura Anne Jones AS Ken Skates AS Buffy Williams AS Heledd Fychan AS Sioned Williams AS |
Tystion: |
Rocio Cifuentes, Childrens' Commissioner for Wales Sara Jermin, Comisiynydd Plant Cymru Kirrin Spiby-Davidson, Comisiynydd Plant Cymru Rhun ap Iorwerth AS, Comisiynydd Gareth Davies AS Russell George AS Jack Sargeant AS Joyce Watson AS, Comisiynydd Sarah Murphy AS Jane Dodds AS |
Staff y Pwyllgor: |
Naomi Stocks (Clerc) Helen Finlayson (Clerc) Claire Morris (Ail Glerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Sarah Bartlett (Dirprwy Glerc) Michael Dauncey (Ymchwilydd) Rosemary Hill (Ymchwilydd) Dr Paul Worthington (Ymchwilydd) Sian Thomas (Ymchwilydd) |
1 Sesiwn friffio gyda Mind Cymru ynghylch yr adroddiad, 'Sortiwch y Switsh'
1.1 Cafodd yr
Aelodau sesiwn friffio gan bobl ifanc ynghylch eu hadroddiad
'Sortiwch y Switsh'.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg.
1.2 Nid oedd
unrhyw ddirprwyon.
3 Craffu ar Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2021-2022
3.1 Bu’r Pwyllgor yn craffu ar Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd, a gofynnodd yr Aelodau hefyd gwestiynau am wasanaethau i blant sydd wedi bod mewn gofal a blaenoriaethau’r gyllideb.
3.2 Cytunodd y Comisiynydd i ddarparu’r canlynol:
- Manylion am ba mor eang yr ymgynghorwyd â phlant a phobl ifanc wrth symud swyddfa; ac
- Ymateb y Comisiynydd i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar ddiwygio'r rhai sy'n gadael gofal.
3.3 Oherwydd cyfyngiadau amser, cytunwyd y byddai'r cwestiwn nas gofynnwyd yn cael ei anfon at y Comisiynydd i gael ymateb ysgrifenedig.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Cafodd y
papurau eu nodi.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod hwn.
5.1 Derbyniwyd y
cynnig.
6 Craffu ar waith Comisiynydd Plant Cymru - trafod y dystiolaeth
6.1 Bu'r
Pwyllgor yn trafod y dystiolaeth a glywyd yn ystod y sesiwn
flaenorol. Cytunodd i fynd ar drywydd rhai o’r materion a
godwyd yn ystod y sesiwn ar ffurf ysgrifenedig.
7 Gwrandawiadau cyn penodi Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil - trafod y drefn
7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y dull o gynnal y gwrandawiad cyn penodi.